Beth yw y Farchnad?
Eleni, lansiodd y Senedd Y Farchnad, sy’n dod â lleisiau o bob rhan o Gymru i’r Senedd bob mis. Mae gan y digwyddiad drefniant tebyg i farchnad, ac fe'i cynhelir ar ddau lawr y Senedd.
Yn Y Farchnad, gallwch gynnal stondin yng nghalon y Senedd; i rwydweithio, cwrdd ag Aelodau o'r Senedd a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Ar gyfer pwy mae'r Farchnad?
Mae’r Farchnad yn lle i drafod amrywiaeth o faterion, cwrdd â grwpiau cymunedol a dod â phynciau i’r amlwg.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau bach a mawr, grwpiau cymunedol ac unigolion sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o achos neu brosiect.
Ble?
Y Neuadd a’r Oriel, y Senedd, Bae Caerdydd.
Darllenwch fwy o wybodaeth am sut i gyrraedd y Senedd.
Pryd?
11:00 – 14:00 ar drydydd dydd Mawrth bob mis.
Gwybodaeth i sefydliadau
- Byddwch yn cael bwrdd sydd â lle i faner godi o faint safonol.
- Gallwch ddod â deunyddiau gwybodaeth megis taflenni neu adroddiadau, a'ch dyfais eich hun, megis gliniadur.
- Mae Wi-Fi ar gael i bob gwestai, ond nid oes mynediad at ffynonellau trydan ar y safle. Ni fydd cymorth clyweledol yn cael ei ddarparu.
- Gallwch archebu detholiad bach o frechdanau neu bice ar y maen drwy ein cyflenwr arlwyo, neu ddefnyddio ein caffi cyhoeddus yn yr Oriel. Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyn pan fydd eich bwrdd wedi'i archebu.
I gymryd rhan yn Y Farchnad, rhaid i chi sicrhau nawdd gan Aelod o’r Senedd. Mae croeso i Aelodau noddi mwy nag un sefydliad mewn digwyddiad.
Barod i gymryd rhan?
chevron_rightCeir rhagor o wybodaeth am ein fformat Marchnad ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.