Os yw eich gwaith yn effeithio ar Gymru, mae’r Farchnad yn cynnig llwyfan uniongyrchol i rannu tystiolaeth allweddol ac ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau o’r Senedd.
Y Farchnad
Dewch i gwrdd ag Aelodau o’r Senedd a chodi ymwybyddiaeth o’ch gwaith yng Nghymru.
Beth yw’r Farchnad?
Digwyddiad ymgysylltu rheolaidd a gynhelir yn y Senedd ym Mae Caerdydd yw’r Farchnad. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddyddiau Mercher penodol, ac mae'n gyfle i sefydliadau gynnal stondin yng nghanol Senedd Cymru ac ymgysylltu wyneb yn wyneb ag Aelodau o’r Senedd a sefydliadau eraill sy'n cymryd rhan.
Pryd mae'r digwyddiad nesaf a phwy fydd yno?
- Usdaw Freedom From Fear
- Public Services Ombudsman for Wales – Gwasanaethau Cyhoeddus Ombwdsmon Cymru
- Care & Repair Cymru
- YnNi Teg
- Cancer Research UK
- RSPB Cymru
- Upper Wye Catchment Restoration Project – Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
- Elevate Employment Services
- National Trust Cymru – Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Wales & West Utilities
- Platfform
- VOICES ADFOCAD
- National House Building Council
- Macmillan
- ExChange Wales
- All Wales People First – Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
- Ofgem
- General Medical Council (GMC)
- Trydan Gwyrdd Cymru
- BMA Cymru Wales
- The Open University in Wales - Y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Asthma + Lung UK Cymru
- Celtic Credit Union
- Joseph's Smile
Oes rhaid i mi gynnal stondin er mwyn mynd i’r digwyddiad?
Nac oes. Mae’r Farchnad yn rhad ac am ddim ac ar agor i'r cyhoedd. Mae croeso i ymwelwyr grwydro’r digwyddiad, cwrdd â’r stondinwyr a siarad â’r bobl sy’n bresennol, gan gynnwys Aelodau o’r Senedd. Rhaid i sefydliadau sydd am arddangos, dangos deunyddiau neu hyrwyddo eu gwaith wneud cais am stondin ymlaen llaw.
Sut mae gwneud cais i gynnal stondin?
Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau bach a mawr, grwpiau cymunedol ac unigolion sydd am godi ymwybyddiaeth o achos neu brosiect. Does dim tâl am gynnal stondin, ond mae ambell gam y bydd rhaid i chi ei gymryd i wneud cais:
- Cyflwynwch ffurflen gais. Gan fod cymaint o alw, rydym yn argymell cyflwyno eich cais hyd at 11 mis ymlaen llaw. Rhowch gynifer o fanylion â phosibl. Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu lle. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich cais wedi cael ei ystyried. Wrth gynllunio pob Marchnad, ein nod yw cynnig rhaglen amrywiol o sefydliadau, themâu a phynciau trafod.
- Sicrhewch nawdd. Os cewch gynnig lle, bydd angen i chi sicrhau nawdd gan Aelod o’r Senedd. Gall Aelod noddi mwy nag un stondin a gall stondin gael ei noddi ar y cyd gan fwy nag un Aelod.
- Paratowch eich stondin. Ar y diwrnod, byddwn yn darparu bwrdd, dwy gadair a lle i chi gael codi baneri. Mae WiFi ar gael ledled y Senedd, ond ni ellir cyflenwi pŵer i stondinau unigol, felly gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddyfeisiau wedi'u gwefru'n llawn.
Unwaith y bydd eich stondin wedi’i chadarnhau, byddwch yn cael e-bost gan ein tîm Lleoliadau gyda rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i chi ddod ag ef gyda chi, sut i baratoi a beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod.
Yn y cyfamser, cymerwch gip ar ein Cwestiynau Cyffredin isod i gael gwybod mwy. Os oes gennych gwestiwn nad yw’n cael ei drafod isod, cysylltwch â lleoliadau@senedd.cymru neu ffoniwch 0300 200 6208.
Cwestiynau cyffredin
Os cewch gynnig lle, bydd angen i chi ddod o hyd i Aelod o’r Senedd i noddi eich stondin.
Os hoffech ofyn am nawdd gan Aelod sydd â diddordeb yn eich pwnc, neu sy'n eistedd ar bwyllgor perthnasol, ewch i'n tudalen pwyllgorau i gael gwybod mwy.
Yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd, mae mannau o’r enw y Neuadd a’r Oriel. Dyma ble mae’r Farchnad yn cael ei chynnal.
Gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch y Senedd i weld y lle sydd ar gael, neu ddod o hyd i wybodaeth am sut i gyrraedd y Senedd.
Mae’r Farchnad yn cael ei chynnal ar ddyddiau Mercher penodol rhwng 11:30 a 14:00.
Rydym yn annog sefydliadau i osod eu stondinau am 11.00.
Fel arfer, mae lle i tua 12 stondin ym mhob digwyddiad, er mwyn gallu ymgysylltu a rhwydweithio’n ystyrlon ag Aelodau o’r Senedd.
Mae cyfarwyddiadau, ynghyd â gwybodaeth am deithio ac am y broses ddiogelwch, ar gael ar ein tudalen Cynlluniwch eich Ymweliad.
Bydd pob stondin yn cael:
- bwrdd trestl 6 troedfedd/1.8 metr
- dwy gadair
- lliain bwrdd mewn lliw Senedd niwtral (ond mae croeso i chi ddod â'ch lliain bwrdd eich hun)
- mynediad at WiFi
Digwyddiad ymgysylltu anffurfiol, wyneb yn wyneb, yw’r Farchnad, ac nid yw'n cynnwys areithiau na chyflwyniadau ffurfiol. Gan hynny, ni ddarperir offer clyweledol.
Gallech ddod ag un neu ddwy o faneri codi a deunyddiau er mwyn i bobl allu gweld eich brand neu eich logo yn glir o bell. Rhaid i chi gadw eich deunyddiau arddangos o fewn ardal y stondin sydd wedi’i neilltuo i chi.
Gallwch hefyd ddod â'ch dyfais eich hun, er enghraifft gliniadur. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddyfeisiau electronig wedi'u gwefru'n llawn gan na fydd ffynhonnell bŵer ar gael i chi yn ystod y digwyddiad.
Gallech hefyd ddod â rhai eitemau bach gyda chi i’w rhoi i bobl sy’n ymweld â’ch stondin.
Mae croeso i chi hefyd ddod â phropiau neu arddangosfeydd sy'n gwella cyfleoedd i ymgysylltu, cyhyd â'u bod yn ffitio yn eich gofod arddangos. Byddai angen cytuno ar y rhain ymlaen llaw gyda’r tîm Lleoliadau.
Na chewch. Os dewch ag eitemau i'r Senedd, ni chewch eu gwerthu ar y safle, ac ni chewch godi arian ar y safle chwaith.
Does dim terfyn ffurfiol ar nifer y cynrychiolwyr sy'n codi stondin.
Er hynny, oherwydd gofynion o ran lle a gofynion gweithredol, efallai y byddwn yn gofyn i sefydliadau gyfyngu’r niferoedd lle bo modd. Byddwn yn ystyried anghenion o ran mynediad, a phobl sydd â phrofiad bywyd sy’n cymryd rhan, wrth ystyried niferoedd.
Mae lluniaeth ar gael yng nghaffi’r Senedd. Gall stondinwyr hefyd drefnu i ddetholiad bach o bice ar y maen fod ar gael ar eu stondin drwy dîm arlwyo'r Senedd ar y safle. Bydd manylion am y fwydlen a sut i archebu yn cael eu rhannu pan fydd eich stondin wedi'i chadarnhau.
Cewch. Caniateir ffotograffiaeth yn y Senedd. Byddwch yn ystyriol wrth dynnu lluniau o bobl eraill a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael y caniatâd priodol cyn rhannu lluniau ar-lein y gellir adnabod aelodau o’r cyhoedd ynddynt.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â lleoliadau@senedd.cymru neu ffoniwch 0300 200 6208.