Y Senedd a Chynaliadwyedd
Y Senedd
Dyma yw Senedd Cymru, a’r adeilad eiconig hwn yw ei chartref.
Ni yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Cafodd adeilad y Senedd ei ddylunio gan yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour a'i agor yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2006, a chafodd ei gydnabod ar unwaith fel adeilad nodedig. Mae Senedd Cymru wedi ymrwymo i fod yn ddemocratiaeth dryloyw a dyluniwyd yr adeilad i adlewyrchu hyn.
Beth am ddysgu rhagor am y weledigaeth ar gyfer y Senedd, a gweld brasluniau pensaernïol cynnar Ivan Harbour o’r adeilad, yn yr arddangosfa Dylunio yn ganolog i’r Senedd yn y Pierhead.
Y Cynllun a’i Bensaernïaeth
Y cynllun yw i adeilad y Senedd bara am 100 mlynedd, ac mae ystod o ddeunyddiau anadweithiol a gwydn yn rhan ohono. Naddwyd y grisiau sy’n dod â'r ymwelydd i fyny o lan y dŵr o lechfaen Cymreig, a llechfaen Cymreig sy’n amgáu mannau preifat yr adeilad. Mae to tonnog ysgafn yn cysgodi’r mannau mewnol ac allanol, gyda rhan ohono’n estyn ar i lawr i ffurfio'r twndis uwchben y Siambr. Mae gan y twndis hwn swyddogaeth ddeuol: mae’n dod â golau dydd i'r Siambr, tra bod cwfl gwynt ar ei ben yn tynnu awyr iach drwy’r Siambr.
O bobtu i'r Siambr mae dau gwrt mewnol, wedi'u ffurfio gan ddwy hafn ddofn wedi'u torri yn y plinth sy'n taflu golau dydd ar yr ystafelloedd pwyllgora a’r swyddfeydd ar y llawr gwaelod. Mae'r cyrtiau hyn hefyd yn gwneud yr adeilad yn fwy tryloyw byth, gan adael i’r cyhoedd uwchben weld y mannau preifat islaw.
Yr adeilad
Mae adeilad y Senedd yn sefyll ar blinth concrit, gyda cholofnau, trawstiau a slabiau yn rhan ohono.
Defnyddiwyd dros 16,700 tunnell o goncrit ar gyfer y sylfaen gadarn hon. Cafodd y concrit, a ddewiswyd am ei gadernid a’i briodweddau thermol, ei gastio ar y safle ac mae ganddo orffeniad o ansawdd uchel. Mae llawer o rannau o'r adeilad wedi cael eu gadael yn agored fel rhan o estheteg yr adeilad.
Mae waliau gwydr y Senedd yn cynrychioli natur dryloyw y gwaith sy'n cael ei wneud y tu mewn i'r adeilad.
Mae'r gwydr yn gadael golau naturiol i mewn, sy'n golygu nad oes rhaid i’r goleuadau yn y nenfwd, a weithredir gan fesuryddion golau awtomatig, fod ymlaen am y rhan fwyaf o'r dydd. Mae rhai o'r ffenestri'n agor yn awtomatig, a hynny er mwyn tymheru y tu mewn i’r adeilad. Fentiau yn y lloriau a'r nenfydau sy’n awyru’r mannau mwy caeedig.
Nodweddion cynaliadwyedd
Dyluniwyd y Senedd i fod yn adeilad cynaliadwy o'r cychwyn cyntaf, gan ennill sgôr 'Ardderchog' BREAAM yn y cyfnod dylunio ar gyfer llawer o'i nodweddion cynaliadwy.
Roedd y briff dylunio hefyd yn gofyn am fodloni'r meini prawf cynaliadwy a ganlyn:
■ hyd oes o 100 mlynedd;
■ defnyddio deunyddiau cynhenid;
■ lleihau'r defnydd o ynni a gwastraff;
■ gosod technolegau adnewyddadwy; a
■ gosod esiampl o ran cynaliadwyedd.
Mae'r twndis yng nghanol yr Oriel yn rhan bwysig o system awyru'r adeilad. Mae'r cwfl ar ben yr adeilad yn newid cyfeiriad gyda'r gwynt, gan gynhyrchu gwasgedd negyddol y tu mewn i'r twndis; mae hyn yn tynnu aer cynnes allan o'r siambr ac yn ei le, mae’n dod ag awyr oerach, ffres i mewn oddi isod.
Uchod mae golygfa o'r twndis o'r tu mewn i'r siambr. Mae'r llusern ar frig y twndis yn gadael golau dydd naturiol i mewn.
Mae tu allan y twndis a'r nenfwd dan orchudd o bren y cedrwydd cochion. Mae'r pren yn cynnwys olew cadwrol naturiol, sy'n golygu na fydd angen ei drin am o leiaf 100 mlynedd
Ar y canopi allanol, mae'r broses hindreulio wedi newid hwn i liw llwyd dymunol; mae hyn yn cyferbynnu â'r pren y tu mewn i'r adeilad.
Mae dyluniad yr adeilad yn cynnwys pwmp gwres o’r ddaear, sy'n defnyddio tymheredd y ddaear ar gyfer gwresogi ac oeri. Mae hyn yn golygu bod modd dod â rhywfaint o wres i mewn i'r adeilad ddiwedd yr haf pan fydd y ddaear yn dal yn gynnes, gan wrthdroi’r broses yn y gwanwyn i helpu i’w oeri ar ddiwrnodau heulog.
Caiff boeler biomas ei ddefnyddio yn y gaeaf ar gyfer gwres ychwanegol. Y tanwydd bron di-garbon yw sglodion pren o ffynonellau cynaliadwy, sy’n cadw allyriadau carbon deuocsid yr adeilad mor isel â phosibl.
Mae to'r Senedd hefyd wedi'i ddylunio i gasglu dŵr glaw, a ddefnyddir i fflysio’r toiledau ac ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Caiff y dŵr glaw ei gronni mewn dau danc 75m3 o dan yr adeilad (sef 75 tunnell fesul tanc!) a'i lanhau gan ddefnyddio golau uwchfioled. Ynghyd â dyfeisiau arbed dŵr eraill fel toiledau di-ddŵr a thapiau awtomatig, mae cronni dŵr glaw yn cadw'r galw am ddŵr o'r prif gyflenwad mor isel â phosibl. Mae ein cyflenwad misol o ddŵr prif gyflenwad yn debyg i’r cyflenwad i eiddo domestig mawr!
Y Senedd mewn ffigurau
Mae'r Senedd yn gam arwyddocaol yn hanes datganoli yng Nghymru – hanes y gellir ei olrhain yn ôl ganrifoedd lawer.
Gydag adeilad mor bwysig â hwn, mae rhai o’r ffigurau yn eithaf trawiadol:
■ Helpodd dros 1,200 o bobl i godi’r adeilad.
■ Mae'r to dur wedi'i wneud o 421 tunnell o ddur, gyda 21,900 o folltau a 2,088 o gysylltiadau.
■ Mae'r pwmp gwres o’r ddaear yn cynnwys 27 twll sydd wedi’u turio 100 metr i mewn i'r ddaear.
■ Arwynebedd yr adeilad yw 5,000m2.
■ Ceir 89 o diwbiau adlewyrchol y tu mewn i’r twndis.
■ Mae'r adeilad yn defnyddio mwy na 1,000 tunnell o lechfaen Cymreig, yn gorchuddio oddeutu 10,000m2.
■ Pe bai'r holl estyll pren a ddefnyddir yn y Senedd yn cael eu rhoi ben wrth ben, byddent yn ymestyn 45 cilometr.
■ Mae'r drych conigol y tu mewn i ben y twndis yn pwyso 150 cilogram.
■ Rydym bellach wedi newid llawer o'r goleuadau yn y Senedd i oleuadau LED. Hyd yn hyn maen nhw wedi arbed mwy na 60 tunnell o garbon rhag cael ei gynhyrchu.
Mae croeso i bawb ymweld â ni yma, i weld Senedd Cymru wrth ei gwaith.