Mae gan y Senedd Ystâd ffisegol ym Mae Caerdydd, yn ogystal â swyddfa barhaol yng Ngogledd Cymru. Hefyd, mae gan Aelodau o'r Senedd hawl i swyddfa yn eu hetholaeth neu eu rhanbarth. Mae manylion am y rhain i'w gweld ar dudalen proffil yr Aelod perthnasol.

Wedi'i gynllunio gan Rogers Stirk Harbour a’i Bartneriaid, mae'r adeilad hwn yn ymgorffori’r gwerthoedd democrataidd o fod yn agored, a chyfranogi.  

Mae tryloywder yr adeilad yn caniatáu i chi fwynhau llawer ohono o'r tu allan, ond dewch i mewn i ddysgu rhagor am sut mae Senedd Cymru yn cynrychioli pobl Cymru. 

Crwydro eich Senedd