Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Sylwer bod Comisiwn y Senedd wedi cytuno, oherwydd y risgiau o COVID-19, y bydd Ystâd gyfan y Senedd yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd tan ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2021 o leiaf. Mae’n bosibl na fydd yr holl gyfleoedd wyneb yn wyneb a nodir ar y dudalen hon ar gael ar hyn o bryd, ond rydym yn gobeithio eu cynnig eto’n fuan. Mae ein cyfleoedd ar-lein yn parhau i fod ar gael.
Mae Swyddfa Gogledd y Senedd ym Mae Colwyn, ar agor i'r cyhoedd rhwng 09.00 a 17.00 Dydd Llun i Ddydd Gwener ac wedi ei leoli ar y llawr gwaelod ym Mharc y Tywysog, Rhodfa'r Tywysog.
Mae croeso i ymwelwyr alw heibio yn ystod yr oriau uchod i gael gwybodaeth am waith y Senedd ac mae aelodau staff ar gael i ymdrin âg ymholiadau. Mae nifer o gyhoeddiadau hefyd ar gael.
Rydym wedi ein lleoli yn:
Senedd Cymru
Swyddfa Gogledd Cymru
Parc y Tywysog
Rhodfa’r Tywysog
Bae Colwyn
Conwy
LL29 8PL
Map lleoliad (PDF, 2MB)
Map
Hygyrchedd
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.

Senedd.TV
Senedd TV yw sianel ddarlledu ar-lein y Senedd, ac yma gallwch wylio: dadleuon byw yn y Cyfarfodydd Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor, fideos wedi'u harchifo o holl drafodion y Senedd sy'n digwydd yn gyhoeddus, neu fideos o ddigwyddiadau ac amrywiaeth eang o fideos byr am y Senedd a'i gwaith.

Gwneud cais i gynnal digwyddiad
Mae cynnal digwyddiad ar ystâd y Senedd yn rhoi’r cyfle ichi godi proffil eich sefydliad a’r materion a’r pryderon sy’n berthnasol iddo.