Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd: Adeilad Nodedig

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2025   |   Amser darllen munudau

Mae'r Senedd yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru, sy’n gartref i Senedd Cymru. 

Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, fe'i hagorwyd yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006.

Adeilad a Gynlluniwyd ar gyfer Pobl Cymru

O'r cychwyn cyntaf, cynlluniwyd y Senedd i fod yn agored ac yn hygyrch.

Mae ei waliau gwydr a'i mannau cyhoeddus yn gwahodd pobl i weld democratiaeth ar waith.

Yng nghanol yr adeilad mae'r Siambr, y siambr drafod, gydag oriel gyhoeddus uwchben fel bod modd edrych i lawr a gweld Aelodau wrth eu gwaith.

Pensaernïaeth â Phwrpas

Dyluniwyd y Senedd gan Bartneriaeth Richard Rogers (Rogers Stirk Harbour + Partners bellach) sy'n enwog yn rhyngwladol, a ddewiswyd trwy gystadleuaeth bensaernïol fyd-eang.

Crëwyd to ysgubol yr adeilad, y plinth llechi a'r twndis i godi allan o Fae Caerdydd a chroesawu ymwelwyr i mewn.

  • Y Twndis: Nodwedd bensaernïol drawiadol sydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth ymarferol, gan ddenu golau naturiol i mewn ac awyru'r Siambr islaw
  • Waliau gwydr: Gan symboleiddio tryloywder, maent yn gadael golau’r dydd i mewn i’r adeilad ac yn cynnig golygfeydd i ganolbwynt busnes seneddol
  • Deunyddiau naturiol: Dewiswyd llechi Cymreig, dur o Brydain a chedrwydden goch y gorllewin am eu gwydnwch, eu harddwch a'u cynaliadwyedd

Wedi'i hadeiladu ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Mae'r Senedd yn enghraifft eiconig, arobryn o bensaernïaeth fodern. Mae ei dyluniad yn lleihau'r defnydd o ynni ac effaith amgylcheddol drwy:

  • Golau naturiol: Mae waliau gwydr, arwynebau adlewyrchol a thwndis â drych uwch ei ben yn lleihau'r angen am oleuadau artiffisial
  • Gwresogi ac oeri effeithlon: Mae pwmp gwres o’r ddaear, bwyler biomas a màs thermol o goncrit a llechi yn helpu i reoleiddio tymheredd drwy gydol y flwyddyn
  • Awyru clyfar: Mae ffenestri awtomataidd a chwfl to sy'n cylchdroi yn darparu llif aer naturiol, gan leihau dibyniaeth ar aerdymheru
  • Ailgylchu dŵr glaw: Mae dŵr glaw yn cael ei gasglu o'r to a'i ddefnyddio ar gyfer cynnal a chadw’r adeilad a fflysio’r toiledau. Mae’n golygu, mewn mis arferol, y byddwn ond yn defnyddio cymaint o ddŵr o’r prif gyflenwad â thŷ mawr