Mae cynnal digwyddiad ar ystâd y Senedd yn rhoi’r cyfle ichi godi proffil eich sefydliad a’r materion a’r pryderon sy’n berthnasol iddo.
P’un a yw rhywbeth yn effeithio ar eich tref neu bentref, neu’n fater sydd o bwys i’ch grwp buddiant neu gymdeithas, mae’r mannau sydd gan y Senedd ar gyfer cynnal digwyddiadau yn eich galluogi i wneud y mwyaf o ystâd y Senedd a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Mannau digwyddiadau

Mannau digwyddiadau y Senedd
Gellir cynnal digwyddiadau yn y Neuadd a’r Oriel. Mae’r ddwy lefel ar agor i’r cyhoedd yn ystod y dydd; maent felly yn lleoliadau gwych ar gyfer cynnal digwyddiadau sy’n targedu’r cyhoedd. Dim ond fin nos ac ar ôl i’r Cyfarfod Llawn orffen y gellir cynnal digwyddiadau ar gyfer gwesteion a wahoddwyd. Bryd hynny, mae’r Neuadd a’r Oriel yn lleoliadau gwych ar gyfer eich digwyddiad neu lansiad. Mae’r Neuadd yn lleoliad perffaith ar gyfer adloniant, ac o’r Oriel ceir golygfeydd gwych dros Fae Caerdydd, sef y cefndir perffaith i areithiau.
Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:
- Derbyniadau;
- Digwyddiadau rhyngweithio;
- Stondinau gwybodaeth;
Sut i wneud cais i gynnal digwyddiad
- I wirio argaeledd ar gyfer digwyddiad, anfonwch e-bost at ein Tîm Lleoliadau lleoliadau@senedd.wales neu ffôniwch ni'n uniongrychol ar 0300 200 6218.
- Llenwch y ffurflen gais hon â chynifer o fanylion â phosibl. Sylwer na chaiff ceisiadau newydd eu hystyried fwy na 6 mis cyn y digwyddiad. Bydd ceisiadau sy'n fwy na 6 mis ymlaen llaw yn cael eu cadw ar ffeil a'u hystyried chwe mis cyn y dyddiad y gwnaed cais amdano.
- Chwe mis cyn y digwyddiad, neu os yw'r dyddiad y gwnaethoch gais amdano o fewn 6 mis, byddwn yn prosesu eich cais, fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Pan wneir penderfyniad, cewch e-bost sy'n cadarnhau eich digwyddiad.
- Bydd angen arnom i chi anfon manylion nawdd gan Aelod o'r Senedd atom.
- Chwe wythnos cyn eich digwyddiad, caiff Swyddog Lleoliadau ei neilltuo i chi a fydd yn cysylltu â chi i drafod eich digwyddiad yn Senedd Cymru.
- Yn olaf, rhaid i bob deunydd cyhoeddusrwydd ddangos yn glir enw'r Aelod o'r Senedd sy'n noddi. Rhaid i chi gyflwyno'r holl wahoddiadau, hysbysiadau neu gylchlythyrau i'n Tîm Lleoliadau trwy anfon e-bost at lleoliadau@senedd.cymru i'w cymeradwyo cyn eu defnyddio. Gallai methiant i gydymffurfio â'r cam hwn arwain at ganslo eich digwyddiad.
Gofynnwch i Aelod o'r Senedd noddi eich digwyddiad
Anfonwch neges at eich Aelod o'r Senedd lleol:
- I ddarganfod pwy sy'n eich cynrychioli ewch i dudalen Aelodau'r Senedd neu cysylltwch â ni.
- Neu, anfonwch neges at bwyllgor penodol - ewch i'n tudalen Pwyllgorau i weld rhestr o’r pwyllgorau â’r Aelodau sy’n gysylltiedig â nhw.
- Am fwy o wybodaeth neu i gael cyngor am hyn, anfonwch ebost i ein Tîm Lleoliadau lleoliadau@senedd.cymru neu ffôniwch ni yn uniongyrchol 0300 200 6218.