Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan difyr ac addysgiadol gyda'r plant yng Nghaerdydd?
Mae'r Senedd yn lleoliad croesawgar a chyfeillgar i deuluoedd gyda digonedd i ddiddanu a chadw plant yn brysur.
Ardal Chwarae i Blant
Mae ein hardal chwarae bwrpasol i blant wedi'i gynllunio i danio chwilfrydedd a chreadigrwydd.
- Map mawr o Gymru i'w archwilio.
- Amrywiaeth o deganau ac eitemau chwarae synhwyraidd, gan gynnwys blociau adeiladu, botymau sain ac ysgwydwyr.
- Lle diogel a chroesawgar sydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd o gaffi'r Senedd, lle gall oedolion ymlacio gyda choffi tra bod y plant yn chwarae.
Llwybr Archwilio’r Senedd
Gadewch i'ch plant ddod yn Fforwyr y Senedd gyda'n llyfrynnau gweithgareddau rhyngweithiol, wedi'u cynllunio ar gyfer plant 5–12 oed. Mae'r llwybr yn annog ymwelwyr ifanc i gwblhau heriau hwyliog i ennill sticer Crwydro’r Senedd.
Yn ystod gwyliau'r ysgol, rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau arbennig i blant, o weithdai creadigol i adrodd straeon rhyngweithiol.
P'un a ydych chi'n ymweld am wyliau byr neu'n treulio'r diwrnod ym Mae Caerdydd, mae ardal chwarae'r Senedd yn lle perffaith i deuluoedd.