Senedd Virtual Tour

Senedd Virtual Tour

Taith Rithwir

Cyhoeddwyd 08/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/03/2024   |   Amser darllen munud

Mae ein rhith-daith newydd sbon yn eich galluogi i grwydro’r Senedd pryd bynnag, ac o ble bynnag yr hoffech 

Y rhith-daith yw un o’r gweithgareddau hynny ac mae ar gael yma. Mae’r daith yn cynnig profiad difyr a realistig o’r Senedd. Byddwch yn cwrdd â’n tywyswyr, yn gweld ein harddangosfeydd ac yn gweld dyluniad arbennig yr adeiladau.   

Sut mae’n gweithio 

Mae’r daith yn brofiad 360⁰ lle gallwch arwain eich hun o amgylch yr adeilad drwy glicio ar ble bynnag rydych chi am fynd iddo ar y sgrin ar eich dyfais. Ar hyd y ffordd, byddwch yn dod ar draws lincs, lluniau a fideos y gallwch glicio arnynt i gael mwy o wybodaeth.  

Gallwch hefyd grwydro drwy’r wahanol loriau gan ddefnyddio’r teclyn dewis llawr yn y gornel chwith ar y gwaelod, ac os oes gennych yr offer priodol gallwch hyd yn oed brofi’r daith ar ffurf Realiti Rhithwir. 

Hoffem wybod am eich profiad – mynegwch eich barn i ni.

Beth fyddwch chi’n ei weld 

Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r adeilad, fe welwch man gwybodaeth sy’n cysylltu â fideo o un o’n tywyswyr yn eich croesawu i’r adeilad – yn debyg iawn i’r hyn fyddai’n digwydd go iawn! Byddwch yn sylwi ar lawer mwy o’r mannau gwybodaeth hyn o amgylch y lle, sy’n eich galluogi i ddysgu mwy am ddyluniad a phwrpas gwahanol rannau o’r adeilad gan ein tywyswyr.  

Llawr gwaelod 

Ar y llawr gwaelod yn y Neuadd fe welwch dri map dur o Gymru, wedi’u creu gan yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones. Maen nhw’n dangos y system etholiadol yng Nghymru, ac yn eich helpu i weld pwy sy’n eich cynrychioli chi yn y Senedd – rydyn ni wedi ychwanegu lincs i’n tudalennau gwe perthnasol fel y gallwch ddarganfod mwy. 

Gallwch hefyd gael mynediad i’r oriel gyhoeddus trwy gamu trwy’r drws derw sydd i’r dde o ddesg y dderbynfa. 

Yr Oriel 

I fyny’r grisiau yn ardal ‘Oriel’ y Senedd, gallwch gael golwg ar ein harddangosfa ‘Stori Datganoli’ o amgylch y twndis mawr. Crëwyd yr arddangosfa yn 2019 i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru ac mae’n dilyn hanes democratiaeth yng Nghymru o’r degfed ganrif hyd at heddiw.  

Yn yr ardal hon gallwch hefyd weld ein ‘mannau cymryd rhan’ lle gallwch ddysgu ychydig am sut rydyn ni’n cysylltu â phobl Cymru. Yng nghefn yr Oriel mae’r caffi a’r siop, ond yn anffodus nid ydym wedi meistroli gwneud coffi rhithwir eto. 

Y Cwrt 

Os ewch i lawr y grisiau, cewch fynediad ‘y tu ôl i’r llenni’ i ardal y Cwrt. Does gan y cyhoedd ddim mynediad i’r ardal hon fel arfer am resymau busnes a diogelwch. Mae’r ardal yn cynnwys y siambr a’r ystafelloedd pwyllgor. Bydd ein tywyswyr yn egluro pwrpas yr ystafelloedd hyn a rôl y cyfarfodydd sy’n digwydd ynddynt yng ngwaith y Senedd. 

O’r siambr gallwch weld un o nodweddion mwyaf unigryw’r Senedd – y tu mewn i’r twndis mawr. 

Dyluniad 

Mae dyluniad y Senedd yn eiconig, yn gynaliadwy ac yn arddangosfa wych o ddeunyddiau Cymreig, felly cofiwch ddefnyddio’ch pad cyffwrdd neu lygoden i edrych i fyny, i lawr ac o gwmpas i werthfawrogi’r adeilad yn llawn. 

Eisiau gwybod mwy? 

Yn ogystal â’r rhith-daith hon mae ein tywyswyr yn cynnal sesiynau byw ar-lein bob wythnos. Bydd y cyflwyniadau hyn yn rhoi cipolwg i chi o’r canlynol 

  • Y Senedd – pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud;
  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Senedd?
  • Cynrychioli chi a’ch cymuned: Aelodau o’r Senedd;
  • Sut y gallwch chi ddweud eich dweud;
  • Gallwch drefnu i fynd ar un o’r sesiynau byw hyn ar dudalen Eventbrite.