Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Mehefin 2013 i'w hateb ar 2 Gorffennaf 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gymorth y gall ei roi i gymunedau sy'n dymuno cynnal cofebion rhyfel? OAQ(4)0053(CS)
2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei raglen waith i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)0052(CS)W
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i'r berthynas rhwng chwarae a chwaraeon wrth ddatblygu ei bolisïau? OAQ(4)0045(CS)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau chwaraeon yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0039(CS)
5. Keith Davies (Llanelli): Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglyn â Chlwb Pêl-droed Llanelli OAQ(4)0051(CS)W
6. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfranogiad mewn chwaraeon ar gyfer pobl anabl yng Nghymru? OAQ(4)0048(CS) TYNNWYD YN ÔL
7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i sefydliadau celfyddydol sy'n cynrychioli Cymru dramor? OAQ(4)0044(CS)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddatblygu chwaraeon morol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0038(CS)
9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o ffordd iach o fyw? OAQ(4)0037(CS)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae ei adran wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn ag S4C? OAQ(4)0046(CS)W
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau i ehangu gwybodaeth am hanes diwylliannol Cymru? OAQ(4)0050(CS)
12. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnal digwyddiadau diwylliannol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0047(CS) TYNNWYD YN ÔL
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo treftadaeth lenyddol Cymru? OAQ(4)0041(CS)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu rôl theatr yng Nghymru o ran cyflwyno'r celfyddydau i gymunedau? OAQ(4)0043(CS)
15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae treftadaeth Dwyrain De Cymru yn cael ei hyrwyddo i annog adfywio'r rhanbarth hwn? OAQ(4)0040(CS)