Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2014 i’w hateb ar 14 Ionawr 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y difrod a achoswyd i amddiffynfeydd gan lifogydd diweddar? OAQ(4)1418(FM)
2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith diwygio lles ar dlodi yn Nhorfaen? OAQ(4)1424(FM)
3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn Nyffryn Clwyd ar gyfer 2014? OAQ(4)1411(FM)
4. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gofio rhan Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf? OAQ(4)1426(FM)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dderbyn cleifion i ysbytai yn Nwyrain De Cymru dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd? OAQ(4)1422(FM)
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglenni cyfalaf awdurdodau lleol? OAQ(4)1419(FM)W
7. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hybu chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)1410(FM)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl y tu allan i oriau yng Nghymru? OAQ(4)1419(FM)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y caiff canlyniadau’r holl dreialon clinigol eu cyhoeddi? OAQ(4)1420(FM)
10. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu swyddi yng Nghymru yn ystod 2014? OAQ(4)1408(FM)
11. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas eleni? OAQ(4)1412(FM)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar ag Uganda? OAQ(4)1423(FM)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau nyrsio mewn ysbytai yng Nghymru? OAQ(4)1427(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)1414(FM)
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau effeithlonrwydd ynni cartref yng Nghymru? OAQ(4)1417(FM)