19/07/2017 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Gorffennaf 2017 i'w hateb ar 19 Gorffennaf 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddathlu 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn eleni? (WAQ73846)W

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal i sicrhau mwy o leoedd hyfforddi ar gyfer nyrsys plant i fynd i'r afael â'r diffyg mewn nyrsys y newydd-anedig yng Nghymru? (WAQ73847)W

Ateb i ddilyn.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllunio'r gweithlu iechyd er mwyn datrys y prinder mewn nyrsys pediatrig? (WAQ73848)W

Ateb i ddilyn.