21/12/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/01/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2016 i'w hateb ar 21 Rhagfyr 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Lynne Neagle (Torfaen): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gwblhau ei gwaith o fapio'r rhaglenni hyfforddi ac ymyrraeth presennol ar gyfer staff, plant a phobl ifanc, a nodir yn y ffrwd gwaith Cadernid a Llesiant Cyffredinol? (WAQ71718)

Lynne Neagle (Torfaen): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gwblhau ei gwaith o ddatblygu pecyn adnoddau proffesiynol ar iechyd meddwl a llesiant, fel y nodir yn y ffrwd gwaith Cadernid a Llesiant Cyffredinol? (WAQ71719)

Lynne Neagle (Torfaen): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gwblhau ei gwaith o ddatblygu pecyn adnoddau mesur llesiant ar gyfer ysgolion a gwasanaethau, fel y nodir yn y ffrwd gwaith Cadernid a Llesiant Cyffredinol? (WAQ71720)

Lynne Neagle (Torfaen): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gwblhau'r gwaith o adolygu'r llwybr Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol fel y nodir yn y ffrwd gwaith Ymyrraeth Gynnar a Chefnogaeth i Blant a Phobl Ifanc Agored i Niwed? (WAQ71721)
 
Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething):  Together for Children and Young People is a NHS led programme launched in February 2015 with the work streams established at the end of 2015.  Over the last 18 months the programme has been focusing on developing key pieces of work to support and guide local services in planning and delivery. Significant engagement has taken place which has shaped the work of the programme and its workstreams. 
 
The Universal Resilience and Wellbeing workstream has completed the mapping of existing training programmes.  A joint task and finish group is being established with the Early Intervention workstream to provide an evidence rating of the mapped interventions.  The Early Intervention Foundation will support this work.  It is anticipated this second phase will be completed by the end of March.  A competency-based workforce framework which incorporates staff training is under development and will be issued in draft very shortly for informal comment.  A feedback event will be held early in the New Year.  This will subsequently be published in the form of an interactive tool kit with links provided to existing training opportunities. 
 
A proposal for the well-being toolkit for schools and services has been developed and consideration is now being given to how this can be extended to incorporate population measures for the mental well-being of children and young people.  The final scope and timescale for development will be confirmed in the first quarter of 2017.
 
The local primary mental health support service care pathway work will be completed by the summer of 2017.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw parthau perygl nitradau yn cael eu hystyried o dan feini prawf y cerdyn sgorio grantiau Glastir Organig? (WAQ71725)W
 
Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): Nac ydynt.  Ni ystyrir Parthau Perygl Nitradau o dan feini prawf sgorio Glastir Organig.  Ar gyfer Glastir Organig, caniateir defnyddio ardaloedd blaenoriaeth ansawdd dŵr os gallai eu rheoli at ddiben amaethyddol gyfrannu at wireddu amcanion Cyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Mae modd dewis Parthau Perygl Nitradau er hynny os ydyn nhw'n gorgyffwrdd ag ardaloedd yr amcanion hyn ac eraill. 


 
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ar ba sail y cafodd y meini prawf ar gyfer cerdyn sgorio ceisiadau ar gyfer grantiau Glastir Organig eu gosod? (WAQ71726)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Lesley Griffiths: Neilltuwyd is-set o amcanion Glastir a fyddai'n elwa o gael eu rheoli'n organig.  Yn eu plith yr oedd amcanion bioamrywiaeth, ardaloedd blaenoriaeth dŵr a phridd carbon.  Cafodd yr amcanion eu haenu yn ôl pa mor gyffredin oeddynt, felly ymdriniwyd yn ffafriol ag amcanion prinach.  Cawsant eu pwysoli yn ôl lefel eu blaenoriaeth. 
 
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A all y Gweinidog ddarparu eglurhad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn osgoi talu ffermwyr am yr un peth ddwywaith, sef gyda'r un meini prawf ar gyfer Glastir Uwch a Glastir Organig? (WAQ71727)W
 

Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Lesley Griffiths: Mae taliadau Glastir Organig yn seiliedig ar gyflawni mwy nag y gofynnir amdanynt yn y rheoliadau llorweddol a'r gofynion lleiaf ar gyfer gwrtaith a phlaladdwyr.  Mae'r taliadau'n ystyried hefyd ymrwymiadau amaeth-amgylcheddol a hinsawdd gan eu defnyddio fel llinell sylfaen.  O'r herwydd, lle ceir contract Glastir Uwch, ni thelir taliadau Glastir Organig ond ar gyfer y gweithgareddau sy'n cyflawni mwy na'r gofynion hynny.


 
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r fethodoleg ar gyfer gweithio allan sgôr fferm ar gyfer cais ariannol o dan y cerdyn sgorio Glastir Organig? (WAQ71728)W

Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Lesley Griffiths: Mae parseli tir yn cael eu hasesu ar sail amcanion gan gynnwys rhai'r ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer bioamrywiaeth, ansawdd dŵr a phridd carbon.  Cyfrifir y sgoriau trwy luosi'r pwyntiau sydd wedi'u pwysoli fydd wedi'u neilltuo yn ôl eu blaenoriaeth trwy fand ac yn ôl pa mor gyffredin y mae pob amcan.  Lluosir y sgôr gan faint y parsel sy'n gorgyffwrdd â'r amcan.  Cyfunir holl sgoriau'r parsel gan eu normaleiddio wedyn trwy rannu arwynebedd y cais i wneud yn siwr nad yw ceisiadau mawr yn cael ffafriaeth awtomatig.


 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effeithiolrwydd llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor Meic ar gyfer plant yng Nghymru ac a yw'r gwasanaeth wedi bod yn destun gwerthusiad annibynnol? (WAQ71722)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm costau llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor Meic ar gyfer plant yn Nghymru bob blwyddyn ers ei sefydlu, a pha gyllideb sydd wedi'i dyrannu ar gyfer blynyddoedd ariannol yn y dyfodol? (WAQ71723)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o alwadau gan blant a phobl ifanc y mae llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor Meic wedi'u cael gan blant yng Nghymru bob blwyddyn ers ei sefydlu? (WAQ71724)
 
Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant): The Welsh Government commissioned an independent evaluation of Meic, by 20 Degrees Consulting in 2014, which recommended that we continue to manage and plan within a tight budget in a flexible manner. The current contract reflects these recommendations.
 
Initially the contract was £750,000 (£680, 000 running costs, £70,000 for marketing) for 3 years in 2011.  In 2012/13 additional funding of £100,000 was awarded for additional advisors and setting up a bank of volunteer practitioners.

From 2013 to 2015 the annual contract was £850,000, (£780,000 allocated to the running of the helpline; with £70,000 retained by the Welsh Government to fund marketing, communications and awareness activity).

From April 2016 to March 2018 the annual cost of the contract (with an option to extend for a further 2 years on an annual renewable basis) is £416,657.50 with a £50,000 marketing budget retained by Welsh Government.

Total contacts over the lifetime of the helpline up to September 2016

PlatformLifetime2011-122012-132013-142014-152015-162016-17
(6 months left)
Phone13296229033141575157528931649
SMS  7856993229317751480953362
IM1064618203761194311681497457
Emails   15246393115165
 31950514994075324423853592473