01/02/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 25/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/01/2017

​Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 1 Chwefror 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2017

Dadl Fer
 
NDM6221 Nick Ramsay (Mynwy):

Taro'r Fargen Ddinesig – y camau nesaf i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

NDM6220 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2017.

 

NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy.

2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.

3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.

Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau waethygu neu wella.

Yn croesawu:

a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru;

b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac

c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
 
'Cyllideb Derfynol 2017-2018'

 
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol.
 
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr.       
 
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014