Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 5 Gorffennaf 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2017
NNDM6349 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol;
b) darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn darparu llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg;
c) caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu gofal, a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a
d) sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau priodol i gyflwyno gwasanaeth lliniarol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Mehefin 2017
Dadl Fer
NDM6355 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Trosedd casineb - a yw ar gynnydd yng Nghymru?
NDM6354 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu ennyn hyder buddsoddwyr ar gyfer prosiectau adfywio.
3. Yn gresynu at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiect Cylchffordd Cymru ac yn credu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fuddsoddiad posibl ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol.
NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2. Yn nodi'r adroddiad 'Cyrraedd y Miliwn' gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;
b) sicrhau bod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;
c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i'r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;
d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Gorffennaf 2017
NDM6361 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle David J Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
NDM6364 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Mehefin 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6354
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â phob parti perthnasol er mwyn archwilio atebion posibl i'r materion y cyfeirir atynt yn ei datganiad ar Gylchffordd Cymru ar 27 Mehefin 2017 i ennyn hyder buddsoddwyr y dyfodol.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn i'r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru.
NDM6356
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 3(b) a rhoi yn ei le:
ystyried y ffordd orau o hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau Cymraeg fel rhan annatod o'i strategaeth economaidd.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 3(c) a rhoi yn ei le:
adolygu rôl Comisiynydd y Gymraeg a sicrhau bod y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl 3(c) ac ailrifo yn unol â hynny:
ystyried diben ac effeithiolrwydd safonau'r Gymraeg cyn unrhyw gynnig i ehangu eu cymhwyso i'r sector preifat.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 3(d) a rhoi yn ei le:
mabwysiadu model newydd, y tu allan i'r llywodraeth, ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6356
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.
3. Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.
4. Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y bydd mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:
a) bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
i) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a
ii) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; a
b) na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan gynnwys y rhai sy'n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.
NDM6354
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol.
2. Yn croesawu sefydlu'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy'n anelu at sicrhau adfywio effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.
3. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws Blaenau'r Cymoedd.
4. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.