07/06/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 01/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 7 Mehefin 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 31 Mai 2017

Dadl Fer
 
NDM6319 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):
 
Datrys prinder tai Cymru.

NDM6322 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r prinder dybryd o gartrefi ar gyfer pobl iau a theuluoedd i'w prynu neu eu rhentu am bris sy'n agos at y tueddiad hanesyddol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i seilio ei chyfrif o ran anghenion tai ar y rhagolygon amgen yn y ddogfen 'Future Need and Demand for Housing in Wales'.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi strategaeth er mwyn sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys safleoedd tir llwyd, ar gael i adeiladu tai;

b) sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau galwedigaethol ar gyfer y sector adeiladu a datblygu prentisiaethau modern; ac

c) archwilio'r opsiynau ar gyfer byw fel teulu mewn lleoliadau trefol o ddwysedd uwch, yn dilyn yr arfer gorau mewn llawer o ddinasoedd Ewrop.

'Future Need and Demand for Housing in Wales'
 

NDM6325 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod taliadau Ewropeaidd yn ffurfio 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ac mai diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd i bobl am bris rhesymol, o ansawdd uchel, sy'n arddel safonau lles uchel.

2. Yn nodi â phryder y gallai cytundebau masnach anghyfrifol achosi i Gymru gael ei gorlifo â bwyd rhad wedi'i fewnforio, gan niweidio'r diwydiant amaethyddol, yr economi wledig ac iechyd y cyhoedd.

3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni addewidion y rhai a fu'n ymgyrchu'n frwd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gwarantu bod y cyllid Ewropeaidd ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei roi'n ôl yn ei gyfanrwydd.

4. Yn credu, er mwyn rhoi diogelwch i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, y dylai Llywodraeth y DU gael cymeradwyaeth pob gwlad yn y DU cyn llofnodi unrhyw gytundeb masnach.
 
NDM6326 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.

2. Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn nodi'r pwysigrwydd bod Cymru yn inswleiddio'i hun oddi wrth yr ansicrwydd economaidd o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd deddfwriaethol ac economaidd newydd a gaiff eu creu wedi inni adael.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau:

a) bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru feto dros unrhyw gytundeb masnach dramor;

b) bod y pwerau cyllidol dros Dreth ar Werth a'r Doll Teithwyr Awyr yn cael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyfle cyntaf a bod rhagor o ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfradd dreth gorfforaethol unigryw yng Nghymru;

c) bod pwerau caffael yn cael eu datganoli i Gymru i alluogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan fusnesau Cymru fwy o ran yn y broses gaffael i hyrwyddo busnesau Cymru; a

d) nad yw Cymru yn cael yr un geiniog yn llai o arian (yn ôl yr addewid yn ystod ymgyrch y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd) a bod pecyn buddsoddi newydd yn cael ei ddwyn ymlaen i insiwleiddio economi Cymru drwy gydol yr ansicrwydd economaidd a achosir gan y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mudo i Gymru ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y DU i ganiatáu fisâu rhanbarthol fel bod gan Gymru bolisi mewnfudo sy'n gweithio ar gyfer ei gwasanaethau cyhoeddus a'i heconomi.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Mehefin 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6325

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i ddarparu yr un cyfanswm ariannol o ran cronfeydd ar gyfer cymorth i ffermydd tan ddiwedd senedd nesaf y DU.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i weithio gyda chynhyrchwyr bwyd, arbenigwyr amgylcheddol a ffermwyr Cymru a Llywodraeth Cymru i lunio system amaeth-amgylcheddol newydd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Mehefin 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:

NDM6322
 
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fodloni anghenion amrywiol pobl Cymru o ran tai, gan weithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr preifat, y sector rhentu preifat, y cynghorau a'r cymdeithasau tai.

2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i:

a) adeiladu 20,000 ychwanegol o dai fforddiadwy erbyn 2021, gan gynnwys 6,000 drwy'r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru a 1,000 drwy ei chynllun newydd Rhentu i Brynu;

b) gweithio gyda datblygwyr i annog a hwyluso eu gwaith ehangach o adeiladu cartrefi ar gyfer y farchnad a datgloi potensial busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi a chreu swyddi â sgiliau ledled Cymru;

c) diogelu'r stoc bresennol o dai cymdeithasol ac annog cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi mewn darparu cartrefi newydd drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu;

d) buddsoddi mewn datblygu dulliau arloesol o adeiladu tai i ateb yr heriau gan gynnwys patrymau demograffig sy'n newid a'r angen am gartrefi effeithlon o ran ynni;

e) parhau i ailddefnyddio cartrefi gwag a chynnwys darparu tai yn rhan o'i chynlluniau adfywio;

f) sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys tir mewn meddiant cyhoeddus, ar gael i'w ddatblygu i ddarparu tai;

g) parhau i godi safonau yn y sector rhentu preifat a gweithredu ar ffioedd asiantau gosod i denantiaid; a

h) adeiladu ar lwyddiant ei hymyrraeth gynnar mewn perthynas â digartrefedd drwy weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â phroblemau pobl sy'n cysgu ar y stryd.
 
2.  Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod ffioedd gosod yn rhwystro teuluoedd incwm isel rhag symud cartref o fewn y sector rhentu preifat, ac y gall hyn ostwng ansawdd cartrefi wrth iddo ddileu gallu teuluoedd i adael llety anaddas.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd ffioedd asiantau gosod.
 
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

archwilio ffyrdd y gellir defnyddio'r system gynllunio ymhellach i flaenoriaethu adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf a theuluoedd, ac osgoi gadael i ddatblygiadau newydd gael eu dominyddu'n anghymesur gan berchnogaeth prynu i osod a pherchnogaeth ail gartref.
 
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod angen buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth ar gyfer datblygiadau tai newydd, er mwyn bod yn gynaliadwy (gan gynnwys buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus a theithio llesol), a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol i wasanaethu'r boblogaeth ychwanegol.

Yn gresynu bod cyni wedi golygu nad yw buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol yn bosibl, ac yn credu y gallai rhai cynigion ar gyfer datblygiadau tai fod yn anghynaliadwy o ganlyniad i hynny.
 

NDM6326
 
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, y nodir orau beth yw amgylchiadau Cymru a'i hanghenion yn y dyfodol.
 
Diogelu Dyfodol Cymru
 
2.  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau'r cytundeb gorau i Gymru a'r DU wrth adael yr UE.

Yn croesawu gwarant Llywodraeth Geidwadol y DU na fydd pwerau yn cael eu dwyn yn ôl o'r gweinyddiaethau datganoledig, ac y bydd pwerau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu hehangu.

Yn cydnabod ei bod yn bwysig i Gymru a'r Deyrnas Unedig groesawu'r cyfleoedd masnach ac economaidd sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn cefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig.