13/10/2016 - Cynnig heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 18/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y dyfodol

Cynnig a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2016

NNDM6122

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Sian Gwenllian (Arfon)

David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016

2. Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r adroddiad

3. Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi:

(a) bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ledled y DU dros y 50 mlynedd diwethaf

(b) bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod

(c) bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio

(d) bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy.

'Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016'