Cyhoeddwyd 07/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014
Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Medi 2007
Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Medi 2007
Dadl Fer
NDM3660 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Diwylliant a Chyfianwnder Cymdeithasol, Cyfoethogi ein Cymunedau.
NDM3657 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael yr hawl i ddewis ysbyty GIG sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.
NDM3658 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gwerth eiddo ar y farchnad yn aml yn gwbl anghysylltiedig ag incwm ei breswylwyr;
2. Yn gresynu wrth natur 'atchweliadol’ y dreth gyngor;
3. Yn nodi bod cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor yn cael effaith anghymesur ar bobl dlawd;
4. Yn credu y dylai treth leol gael ei seilio ar system decach sy’n adlewyrchu gallu trigolion i dalu; a
5. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gynnwys adolygiad o drethu llywodraeth leol fel rhan o’r Comisiwn annibynnol i adolygu nawdd a chyllid y Cynulliad
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2007
NDM3653 Jenny Randerson (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103:
Yn caniatáu i Jenny Randerson gyflwyno Mesur arfaethedig Aelod er mwyn rhoi ei heffaith i’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2007 dan Reol Sefydlog 23.102.
Gellir gweld y Wybodaeth cyn y balot trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/business-legislative-ballots/business-measures-mb1-005.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Medi 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3658
Rhodri Morgan (Gorllewin Caerdydd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 ac yn ei le rhoi:
2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi'r cymorth mwyaf posib sydd ar gael i drigolion Cymru o fudd-dal y dreth gyngor ac i ddatblygu cynlluniau pellach i ddarparu cymorth ychwanegol.