19/09/2007 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Medi 2007

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Medi 2007

Dadl Fer

NDM3660 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Diwylliant a Chyfianwnder Cymdeithasol, Cyfoethogi ein Cymunedau. NDM3657 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael yr hawl i ddewis ysbyty GIG sy’n addas ar gyfer eu hanghenion. NDM3658 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod gwerth eiddo ar y farchnad yn aml yn gwbl anghysylltiedig ag incwm ei breswylwyr; 2. Yn gresynu wrth natur 'atchweliadol’ y dreth gyngor; 3. Yn nodi bod cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor yn cael effaith anghymesur ar bobl dlawd; 4. Yn credu y dylai treth leol gael ei seilio ar system decach sy’n adlewyrchu gallu trigolion i dalu; a 5. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gynnwys adolygiad o drethu llywodraeth leol fel rhan o’r Comisiwn annibynnol i adolygu nawdd a chyllid y Cynulliad

Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2007

NDM3653 Jenny Randerson (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103: Yn caniatáu i Jenny Randerson gyflwyno Mesur arfaethedig Aelod er mwyn rhoi ei heffaith i’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2007 dan Reol Sefydlog 23.102. Gellir gweld y Wybodaeth cyn y balot trwy ymweld â’r ddolen ganlynol: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/business-legislative-ballots/business-measures-mb1-005.htm

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Medi 2007

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion: NDM3658 Rhodri Morgan (Gorllewin Caerdydd) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 ac yn ei le rhoi: 2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi'r cymorth mwyaf posib sydd ar gael i drigolion Cymru o fudd-dal y dreth gyngor ac i ddatblygu cynlluniau pellach i ddarparu cymorth ychwanegol.