DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/03/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0101 - Masnachu Mewn Pobl
Codwyd gan:
Helen Mary Jones
Tanysgrifwyr:
Dai Lloyd 31/03/2011
Chris Franks 31/03/2011
Rhodri Glyn Thomas 31/03/2011
Leanne Wood 31/03/2011
Masnachu Mewn Pobl
Mae’r Cynulliad:
Yn nodi’r achosion o fasnachu mewn pobl ledled Cymru ac yn cydnabod y camau gweithredu a gymerir gan Lywodraeth Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
Gymryd yr awenau o ran cymryd rhagor o gamau ar sail Cymru gyfan er mwyn datblygu cysondeb gan sicrhau bod asiantaethau ledled Cymru yn gweithio i'r safonau uchaf.
Sefydlu Grwp Masnachu Mewn Pobl Cymru Gyfan i ddatblygu dull gweithredu integredig ar gyfer HOLL ddioddefwyr masnachu mewn pobl, gan ymgorffori asiantaethau wedi’u datganoli a heb eu datganoli;
Sefydlu Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol yng Nghymru, gan sicrhau bod cyfeiriadau a phenderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru a bod pobl sy’n cael eu masnachu yn cael eu cefnogi ac yn cael gofal ar y lefel leol pryd bynnag y byd hynny o’r budd gorau iddynt.