OPIN-2011-0101 - Masnachu Mewn Pobl

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/03/2011

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2011-0101 - Masnachu Mewn Pobl

Codwyd gan:

Helen Mary Jones

Tanysgrifwyr:

Dai Lloyd 31/03/2011

Chris Franks 31/03/2011

Rhodri Glyn Thomas 31/03/2011

Leanne Wood 31/03/2011

Masnachu Mewn Pobl

Mae’r Cynulliad:

Yn nodi’r achosion o fasnachu mewn pobl ledled Cymru ac yn cydnabod y camau gweithredu a gymerir gan Lywodraeth Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

Gymryd yr awenau o ran cymryd rhagor o gamau ar sail Cymru gyfan er mwyn datblygu cysondeb gan sicrhau bod asiantaethau ledled Cymru yn gweithio i'r safonau uchaf.

  • Sefydlu Grwp Masnachu Mewn Pobl Cymru Gyfan i ddatblygu dull gweithredu integredig ar gyfer HOLL ddioddefwyr masnachu mewn pobl, gan ymgorffori asiantaethau wedi’u datganoli a heb eu datganoli;

  • Sefydlu Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol yng Nghymru, gan sicrhau bod cyfeiriadau a phenderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru a bod pobl sy’n cael eu masnachu yn cael eu cefnogi ac yn cael gofal ar y lefel leol pryd bynnag y byd hynny o’r budd gorau iddynt.