DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD AR 6 EBRILL 2017
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2017-0037 Refferendwm Catalonia 2014
Cyflwynwyd gan:
Simon Thomas
Tanysgrifwyr:
Llyr Gruffydd 11/04/17
Refferendwm Catalonia 2014
Mae'r Cynulliad hwn:
a) yn nodi'r refferendwm cynghori a gynhaliwyd ar annibyniaeth Catalonia yn 2014;
b) yn credu bod y bleidlais yn un ddemocrataidd a bod Senedd a Llywodraeth Catalonia yn gyfreithlon yn gofyn barn y bobl;
c) yn condemnio penderfyniad gwladwriaeth Sbaen i erlyn y Seneddwyr hynny a hyrwyddodd ac a hwylusodd y refferendwm; a
d) yn galw ar y Prif Weinidog i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o gondemnio gweithredoedd Llywodraeth Sbaen.