OPIN-2017-0037 Refferendwm Catalonia 2014

Cyhoeddwyd 06/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/04/2017

​DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 6 EBRILL 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

 

OPIN-2017-0037 Refferendwm Catalonia 2014

 
 
Cyflwynwyd gan:

Simon Thomas

Tanysgrifwyr:
Llyr Gruffydd 11/04/17
 
  
Refferendwm Catalonia 2014

Mae'r Cynulliad hwn:

a) yn nodi'r refferendwm cynghori a gynhaliwyd ar annibyniaeth Catalonia yn 2014;

b) yn credu bod y bleidlais yn un ddemocrataidd a bod Senedd a Llywodraeth Catalonia yn gyfreithlon yn gofyn barn y bobl;

c) yn condemnio penderfyniad gwladwriaeth Sbaen i erlyn y Seneddwyr hynny a hyrwyddodd ac a hwylusodd y refferendwm; a

d) yn galw ar y Prif Weinidog i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o gondemnio gweithredoedd Llywodraeth Sbaen.