01/03/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 01/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (45 munud)
  • Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) (15 munud)
  • Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23 (60 munud)
  • Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2022-23 (60 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 9 Mawrth 2022

Busnes y Llywodraeth        

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Dadl Fer – Rhys ab Owen (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaglen fuddsoddi 2022-23 (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol (45 munud)
  • Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022 (30 munud)
  • Dadl: Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-22 (15 munud)
  • Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (60 munud)
  • Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (5 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 16 Mawrth 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) - Cynllunio morol yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Gareth Davies (Dyffryn Clwyd) (30 munud)

 

 

 

 

Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Bwrw Ymlaen â’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru) (45 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (15 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 23 Mawrth 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm – Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud)