Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014 a dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014
Toriad y Nadolig: Dydd Llun 15 Rhagfyr 2014-Sul 11 Ionawr 2015
Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015 a dydd Mercher 14 Ionawr 2015
Dydd Mawrth 20 Ionawr 2015 a dydd Mercher 21 Ionawr 2015
***********************************************************************
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd (30 munud)
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (30 munud)
- Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 (15 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caethwasiaeth Fodern – darpariaethau sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ar adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran (15 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Difrifol (15 munud)
- Dadl: Cyllideb Derfynol 2015-16 (60 munud)
- Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (60 munud)
- Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru (60 munud)
- Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5636
Simon Thomas
Julie Morgan
Mick Antoniw
Alun Ffred Jones
Angela Burns
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw.
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) (5 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – gwelliant mewn perthynas â Deddf Landlord a Thenant 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 2) (15 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – taliadau ymadael y sector cyheoddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 3) (15 munud)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - gwelliant mewn perthynas â Deddf Cychod Pysgota Prydain 1983 a Deddf Pysgodfeydd 1868 a Deddf Pysgodfeydd 1891 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 5) (15 munud)
- Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2015-16 (60 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14 (60 munud)
Dydd Mercher 14 Ionawr 2015
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr (60 munud)
- Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer (30 munud)
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ein Gorffennol a'i Ddyfodol (30 munud)
- Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015 (15 munud)
- Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Uwch (Cymru) (150 munud)
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae'r adrannau a'r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig. Os nad yw'r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae'r adrannau a'r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dydd Mercher 21 Ionawr 2015
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth (60 munud)
- Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer (30 munud)