03/02/2015 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 03/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/02/2015

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
 
Dydd Mawrth 10 Chwefror 2015 a dydd Mercher 11 Chwefror 2015
Toriad: Dydd Llun 16 Chwefror 2015 – dydd Sul 22 Chwefror 2015
Dydd Mawrth 24 Chwefror 2015 a dydd Mercher 25 Chwefror 2015
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2015 a dydd Mercher 4 Mawrth 2015
***********************************************************************

Dydd Mawrth 10 Chwefror 2015 

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (60 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Datganoli trethi yng Nghymru - Ymgynghoriad ar Dreth Trafodiad Tir (30 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn: Lle i’w alw’n gartref? Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru (30 munud)
• Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 6) (30 munud)
• Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol - diwygiad mewn perthynas â chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3) (30 munud)
• Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: 
• Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015
• Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 (15 munud)
• Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru) (60 munud)
• Penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) (5 munud) 

Dydd Mercher 11 Chwefror 2015

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
• Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

• Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 24 Chwefror 2015 

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Treth ar waredu i safleoedd tirlenwi (30 munud)
• Trefn trafod y gwelliannau i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (5 munud)
• Dadl ar Setliad yr Heddlu 2015-16 (60 munud)
• Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2013-14 (60 munud)

Dydd Mercher 25 Chwefror 2015

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
• Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

• Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
• Dadl Fer - Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2015 

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar broses Dydd Gŵyl Dewi (45 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y newid yn yr hinsawdd: The Road to Paris (30 munud)
• Memorandwm Cydsyniad OS ar Orchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 (15 munud)
• Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (180 munud)

Dydd Mercher 4 Mawrth 2015

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

• Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)