03/12/2019 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 03/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2019

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 
Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019
Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Aer Glân (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad Cynnydd Tlodi Plant 2019 (45 munud)
  • Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru (60 munud)

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 (15 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Mynediad at Fancio (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud) 

Dydd Mawrth 7 Ionawr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 (90 munud)
  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020 (15 munud)
  • Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (60 munud)

Dydd Mercher 8 Ionawr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Diweddariad ar waith y Pwyllgor (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Buddion yng Nghymru: Opsiynau ar gyfer cyflawni'n well (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud) – gohiriwyd o 20 Tachwedd 2019

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl ar Gyfnod 3 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (60 munud)

Dydd Mercher 15 Ionawr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Mick Antoniw (Pontypridd) (30 munud)  - gohiriwyd o 4 Rhagfyr 2019