Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 11 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth (45 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Goblygiadau Cynigion Mewnfudo Llywodraeth y DU ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r Economi Ehangach (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (45 munud) - wedi'i ohirio o 4 Mehefin
- Dadl: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (60 munud)
Dydd Mercher 12 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgaredd Corfforol Plant a Phobl Ifanc (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Aer Glân (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cynnydd tuag at Wneud Cymru'n Genedl Noddfa (45 Munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Wythnos Addysg Oedolion (45 munud)
- Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 19 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i ddirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (30 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
- Dadl Fer Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Darparu Cymru Carbon Isel (45 munud)
- Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (15 munud)
- Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (60 munud)
Dydd Mercher 26 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)