Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cymorth i Fyfyrwyr yn 2018/19 a Chyhoeddi Crynodeb o Ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Weithredu Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Diamond (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Cyflogadwyedd (30 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (90 munud)
Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a nodi'r adroddiad cydymffurfiaeth ar gyfer y cyfnod 2015-2017 (60 munud)
- Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru' (60 munud)
- Dadl Fer – Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (60 munud)
- Dadl: Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (5 munud)
- Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 (15 munud)
- Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol – Gwersi o'r Alban (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adrodd Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 (60 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i ymestyn penodiad Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
- Dadl Fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)
Toriad: Dydd Llun 24 Gorffennaf 2017 - Dydd Sul 17 Medi 2017
Dydd Mawrth 19 Medi 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Dydd Mercher 20 Medi 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer (30 munud)