04/10/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 04/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/10/2022   |   Amser darllen munudau

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 11 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi’r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Gwerthuso’r Strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ a’r Camau Nesaf (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
    • Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

 

 

 

 

Dydd Mercher 12 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 18 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Model Darparu Athrawon Cyflenwi (30 munud)
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 (10 munud)
  • Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22 (60 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 19 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Comisiynu Cartrefi Gofal (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol ar gyfer Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru – Buddsoddi Uchelgeisiol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)

 

 

     

 

Dydd Mercher 26 Hydref 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)]
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) (30 munud)