05/06/2018 - ​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 05/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/06/2018

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 12 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (45 munud)
  • Dadl Cyfnod 3 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 13 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Sian Gwenllian (Arfon) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 19 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (45 munud)
  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid – Cymru, Cenedl sy'n Noddfa (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliad Anwes (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Y Strategaeth Goetiroedd (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: Gwneud i'r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif (45 munud)
  • Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Meicrobelenni) (Cymru) 2018 (15 munud)
  • Dadl:  Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (15 munud)

 

Dydd Mercher 20 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)
  • Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer - Mick Antoniw (Pontypridd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 26 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gychwynnol i Athrawon (45 munud)
  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr (45 munud)

 

Dydd Mercher 27 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)