05/07/22 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 05/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2022   |   Amser darllen munudau

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Warant i Bobl Ifanc – sicrhau dyfodol gwell i’n pobl ifanc (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
  • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (10 munud)
  • Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 (30 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (10 munud)
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022 i 2023 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni ein hamcanion llesiant (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (10 munud)
    • Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd
    • Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio drwy Ddirprwy
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Jane Dodds - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (60 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru (30 mun)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

Dydd Mawrth 13 Medi 2022

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Dydd Mercher 14 Medi 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  •  Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 
  • Dadl Fer (30 munud) 

 

Dydd Mawrth 20 Medi 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Dydd Mercher 21 Medi 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (60 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar gyfer y cyfnod 2021-2022 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: (30 munud)