Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Model Cyflenwi Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru (45 munud)
- Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 (15 munud)
- Dadl: Cysylltedd Digidol (60 munud)
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog (10 munud)
- Cynigion i newid cylch gwaith Pwyllgorau (10 munud)
- Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21 (30 munud)
- Dadl Fer: Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
- Dadl Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (180 munud)
Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol" (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 (90 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (60 munud)
- Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (45 munud)
- Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Ryngwladol (45 munud)
- Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Yr Economi Sylfaenol (45 munud)
- Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 (15 munud)
- Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2019 (15 munud)
- Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) 2019 (15 munud)
- Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a'u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 (15 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried diwygiadau Cyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Rhesymol) (Cymru) (5 munud)
- Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (60 munud)
- Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (5 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau i Blant (60 munud)
Dydd Mercher 27 Tachwedd 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
- Dadl Fer Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) (30 munud)