06/10/2020 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2021   |   Amser darllen munudau

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 13 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020 (45 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mynd i'r Afael â Pharcio ar y Palmant (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (60 munud)
    • Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
    • Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 14 Hydref 2020 –

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Hefin David (Caerffili) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 20 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol" (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y sefyllfa bresennol o ran Cysylltiadau Rhynglywodraethol (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid ar gyfer Bysiau (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft ar gyfer Trechu Tlodi Tanwydd yng Nghymru (45 munud)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 (15 munud)
  • Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20 (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 21 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Cynllun Adfer Economaidd (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Ddigartrefedd (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Diweddariad ar Ddatblygiadau ym mholisi masnach y DU (45 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (5 munud)
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (15 munud)
  • Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud)

 

Dydd Mercher 4 Tachwedd 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20 (30 munud)
  • Dadl ar ddeisebau: Dysgu hanes mewn ysgolion (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Breixt (60 munud)
  • Dadl Fer – David Rowlands (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)