06/11/2012 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 13 Tachwedd a dydd Mercher 14 Tachwedd 2012

Dydd Mawrth 20 Tachwedd a dydd Mercher 21 Tachwedd 2012

Dydd Mawrth 27 Tachwedd a dydd Mercher 28 Tachwedd 2012

****************************************************************************************

Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis (30 munud) – gohiriwyd o 6 Tachwedd

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun “Gwella Ysgolion”, a gyhoeddwyd ar 10 Hydref 2012 (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Newydd i Adolygu Ymarfer Plant – Diogelu ac Amddiffyn Plant yn Well (30 munud)

  • Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 (120 munud)

Dydd Mercher 14 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 (30 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’ (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) (30 munud)

Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol (30 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus - cymalau yn ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd (15 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio – pwerau i gynnwys darpariaethau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth (15 munud)

  • Dadl: Y Lluoedd Arfog (60 munud)

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2011-12 (60 munud)

  • Dadl Fer – Lynne Neagle (Tor-faen) (30 munud) – gohiriwyd o 24 Hydref

Dydd Mercher 21 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (60 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y Diweddaraf ar Ardaloedd Menter (30 munud)

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy (60 munud)

Dydd Mercher 28 Tachwedd 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud) – gohiriwyd o 7 Tachwedd

  • Dadl Fer – Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) (30 munud)