07/12/2021 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 07/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/12/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru – Pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (Cymru) (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol ar gyfer Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45 munud)
  • Datganiad gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (45 mins)
  • Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021
    • Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhenti Tir) (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021

Busnes y Llywodraeth        

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy llofnodion deisebau (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (15 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 12 Ionawr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 18 Ionawr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 19 Ionawr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)