08/01/2019 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 08/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2019

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 15 Ionawr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2019-20 (60 munud)
  • Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 (60 munud)

 
Dydd Mercher 16 Ionawr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud) 
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 (15 munud)
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Awtistiaeth (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau (preswyl) Uchel Iawn (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 22 Ionawr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coedwigaeth yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach: Cymru Iach - Ein Huchelgeisiau Cenedlaethol i Atal a Lleihau Gordewdra yng Nghymru (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
    • Rheoliadau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
    • Rheoliadau Gwasanaethau Eiriolaeth Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
    • Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Rheoliadau Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (15 munud)

 

Dydd Mercher 23 Ionawr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer: Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 29 Ionawr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu: Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Newid Deddfwriaethol (45 munud)

 

Dydd Mercher 30 Ionawr 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer - Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) (30 munud)