Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Cyhoeddi polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd (45 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (30 munud)
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020
- Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
- Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
- Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (15 munud)
- Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
- Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
- Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (30 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (60 munud)
- Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
- Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach (60 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwilliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 12 Ionawr 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 (90 munud)
- Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried diwygiadau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 13 Ionawr 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (60 munud)
- Dadl Fer (30 munud)
Dydd Mawrth 19 Ionawr 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)
Dydd Mercher 20 Ionawr 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer (30 munud)