09/01/2018 - ​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 09/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2018

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 16 Ionawr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (45 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19 (60 munud)
  • Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 (15 munud)
  • Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol 2018-19 (60 munud)


Dydd Mercher 17 Ionawr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol (60 munud)
  • Dadl Fer - Lee Waters (Llanelli) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 23 Ionawr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd ar y Gronfa Triniaeth Newydd (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod (45 munud)
  • Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (15 munud)
  • Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Amrywiol) 2018 (15 munud)
  • Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru (60 munud)


Dydd Mercher 24 Ionawr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)
  • Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Siân Gwenllian (Arfon) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 30 Ionawr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Cyflymu Cymru (45 munud)
  • Cynnig i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018
  • Cynnig i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (45 munud)
  • Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018


Dydd Mercher 31 Ionawr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)