09/02/2010 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Hanner tymor 15 - 19 Chwefror 2010

Dydd Mawrth 23 Chwefror a dydd Mercher 24 Chwefror 2010

Dydd Mawrth 2 Mawrth a dydd Mercher 3 Mawrth 2010

Dydd Mawrth 9 Mawrth & dydd Mercher 10 Mawrth 2010

………………………………………….

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a chwestiynau (30 munud)

  • Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai : Mesur arfaethedig Gwastraff (Cymru) (60 munud)   

  • Cynnig i gymeradwyo’r rheoliadau: The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010 (15 munud)   

  • Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn y DU yn y Cyfrin Gyngor ynghylch yr ymrwymiad i leihau allyriadau carbon (15 munud)

  • Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur (5 munud)

  • Dadl ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell (60 munud)

  • Dadl ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy (60 munud)

Dydd Mercher 24 Chwefror 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)

Busnes y Cynulliad:

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Dydd Mawrth 2 Mawrth 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a chwestiynau (30 munud)

  • Dadl ar Glastir (60 munud)

  • Dadl ar y Cynllun Gweithredu Twristiaeth a Marchnata (60 munud)

Dydd Mercher 3 Mawrth 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)  

Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

Dydd Mawrth 9 Mawrth 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a chwestiynau (30 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 Rheol Sefydlog 23.57 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru) (60 munud)  

Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall y Gweinidog gynnig i’r Mesur arfaethedig gael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 23.58: Cyfnod 4 Rheol Sefydlog 23.58 cynnig i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru).

Dydd Mercher 10 Mawrth 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (30 munud)

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar 'Ariannu Seilwaith Ffyrdd' (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)