09/03/2021 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 09/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif (30 munud)
  • Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (10 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (20 munud)
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021
    • Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021
    • Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021
    • Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021
  • Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (10 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 (10 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (45 munud)
    • Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
  • Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (10 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 17 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau y Senedd (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru (30 munud)
  • Dadl ar ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’ (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
  • Dadl Fer – Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru – Cymru wrthhiliol (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
    • Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru
    • Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
  • Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 (10 munud)
  • Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)
  • Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-21 (15 munud)
  • Dadl: Llwybr Newydd – strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni? (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
  • Dadl Fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)