09/05/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 09/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

 

Dydd Mawrth 16 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd (5 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio Etholiadol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Lleihau Llwyth Gwaith (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adroddiad y Grŵp Arbenigol (Cam 1) (30 munud)
  • Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (10 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (180 munud)

 

 

Dydd Mercher 17 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch Saunders (Aberconwy) (30 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Digartrefedd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Peter Fox (Mynwy) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 23 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 24 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Creu Capasiti drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach yn Gyflymach (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Addysg Ddewisol yn y Cartref (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Sectorau Technoleg a Seiber (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 7 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)