Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Mercher 18 Gorffennaf 2012
Toriad yr haf: 23 Gorffennaf 2012 – 23 Medi 2012
Dydd Mawrth 25 Medi a dydd Mercher 26 Medi 2012
Dydd Mawrth 2 Hydref a dydd Mercher 3 Hydref 2012
*************************************************************************************************
Dydd Mawrth 17 Gorffennaf 2012
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Cymru (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad Grwp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys (30 munud)
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (15 munud)
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 (15 munud)
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 (15 munud)
Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2012-13 (30 munud)
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2012
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Dadl ar adroddiad Grwp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Rhagolygon ar Gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru (60 munud)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Dadl Fer – Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 25 Medi 2012
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cymorth i Fyfyrwyr – Y Drefn newydd (30 munud)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio (15 munud)
Dadl ar Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Adroddiad gan y Grwp Cynghori Annibynnol (60 munud)
Dydd Mercher 26 Medi 2012
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Dadl Fer (30 munud)
Dydd Mawrth 2 Hydref 2012
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Eitemau o Fusnes y Llywodraeth (tua 3 awr)
Dydd Mercher 3 Hydref 2012
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44 (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) o dan Reol Sefydlog 26.47.
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dadl Fer (30 munud)