10/12/2013 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Toriad: Dydd Llun 16 Rhagfyr 2013 - Dydd Sul 12 Ionawr 2014

Dydd Mawrth 14 Ionawr a dydd Mercher 15 Ionawr 2014

Dydd Mawrth 21 Ionawr a dydd Mercher 22 Ionawr 2014

Dydd Mawrth 28 Ionawr a dydd Mercher 29 Ionawr 2014

***********************************************************************

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2014


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: Gwasanaethau Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Rhoi Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd ar waith (30 munud)

  • Cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â diwygio adran 98(1) o'r Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (15 munud)

  • Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru Rhif 2) 2013 (15 munud)

  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (15 munud)

  • Dadl: Setliadau Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol ar gyfer 2014-15 (60 munud)

  • Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2012-13 (60 munud)

Dydd Mercher 15 Ionawr 2014


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2014


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Newid Gwasanaethau Hywel Dda (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Perfformiad Llywodraeth Leol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Gwella perfformiad adeiladau yng Nghymru o ran eu defnydd o ynni (30 munud)

  • Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau Gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013 (15 munud)

  • Dadl ar sicrhau mynediad gwell at ein treftadaeth a'n diwylliant (60 munud)

Dydd Mercher 22 Ionawr 2014


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 28 Ionawr 2014


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd o ran gwella caffael cyhoeddus (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adolygiad annibynnol o gryfder ffermio (30 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am bolisi trafnidiaeth (30 munud)

Dydd Mercher 29 Ionawr 2014


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru (60 munud)  

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)