Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Aer Glân (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - camau nesaf Y Gweithgor ar Lywodraeth Leol (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Wythnos Addysg Oedolion (45 munud)
- Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 19 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i ddirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (30 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
- Dadl Fer Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cyflawni Cymru Carbon Isel (45 munud)
- Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (15 munud)
- Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd (90 munud)
- Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (60 munud)
Dydd Mercher 26 Mehefin 2019
Busnes y Cynulliad
- Dadl ar y cyd gyda Senedd ieuenctid Cymru (60 munud)
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol - Adroddiad (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd - Mesurau Datblygu Economaidd (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) (15 munud)
- Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli (60 munud)
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) (30 munud)