12/02/2019 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/02/2019

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 19 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - (Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid (45 munud)
  • Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff y Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18 (60 munud)

 

Dydd Mercher 20 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)         
  • Dadl fer: Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 5 Mawrth 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cydraddoldeb Rhywiol (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth) (15 munud)
  • Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19 (30 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Mawrth 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (5 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 12 Mawrth 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coedwigaeth yng Nghymru (45 munud)

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (150 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)