12/11/2013 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 19 Tachwedd a dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 26 Tachwedd a dydd Mercher 27 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr a dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013

***********************************************************************

Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyflwyno Bil Tai (Cymru) (60 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarthau (30 munud)

  • Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013

  • Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 (120 munud)

  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13 (60 munud)

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro (5 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014/15 (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (5 munud)

  • Dadl fer - Keith Davies (Llanelli) (30 munud)

Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y cynnydd o ran cyflwyno Strategaeth Yr Hawl i fod yn Ddiogel (30 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (15 munud)

  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (15 munud)

  • Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) 2013 (15 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r eithriad ASBO (15 munud)

  • Dadl: Y manteision i Gymru i'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd (60 munud)

Dydd Mercher 27 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl fer - Gwyn Price (Islwyn) (30 munud)

  • Dadl fer - Julie James (Gorllewin Abertawe) (30 munud) - aildrefnwyd o 25 Medi

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Ymatebion i'r Papur Gwyn ar "Rentu Cartrefi" (30 munud)

  • Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru) (60 munud)

  • Cynnig i gytuno ar benderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Addysg (Cymru) (5 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (60 munud)  

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (5 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar Fil Cyllid y GIG (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Cyllid y Gig (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)