13/02/2018 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 13/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/02/2018

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Ddydd Mawrth 27 Chwefror 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) -  i'w hateb gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Wasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyflawniad Uchel - Cefnogi ein Dysgwyr Mwy Galluog a Thalentog (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Ymchwiliad y DU ar Waed wedi'i Heintio (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Ailgylchu yng Nghymru (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau) (15 munud)

     

Dydd Mercher 28 Chwefror 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
  • Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethu'r DU ar ôl Brexit (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Mawrth 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwerthfawrogi Gweithlu'r GIG (45 munud)
  • Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 (15 munud)
  • Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 (15 munud)
  • Dadl:  Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18 (30 munud)
  • Dadl:  Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17 (60 munud)


Ddydd Mercher 7 Mawrth 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar y Ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 13 Mawrth 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Tirweddau Dynodedig (45 munud)
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (60 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) (5 munud)

     

Ddydd Mercher 14 Mawrth 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl Fer - Llyr Guffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)