14/01/2014 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 21 Ionawr a dydd Mercher 22 Ionawr 2014

Dydd Mawrth 28 Ionawr a dydd Mercher 29 Ionawr 2014

Dydd Mawrth 4 Chwefror a dydd Mercher 5 Chwefror 2014

***********************************************************************

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2014

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Newid Gwasanaethau Hywel Dda (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Perfformiad Llywodraeth Leol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Gwella Perfformiad Ynni Adeiladau yng Nghymru (30 munud)

  • Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau Gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013 (15 munud)

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â rheoleiddio deunydd pacio manwerthu cynhyrchion tybaco, rheoli cynhyrchion tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig (45 munud)

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (Perfformiadau) (30 munud)

  • Dadl ar sicrhau mynediad gwell at ein treftadaeth a’n diwylliant (60 munud)

Dydd Mercher 22 Ionawr 2014

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith a theitlau pwyllgorau (5 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 28 Ionawr 2014

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adolygiad Annibynnol o Gydnerthedd Ffermio (30 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Trafnidiaeth (30 munud)

Dydd Mercher 29 Ionawr 2014

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru – Adroddiad Dilynol (60 munud)  

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Eluned Parrott (Canol De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 4 Chwefror 2014

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (300 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  

  • Dadl Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 5 Chwefror 2014

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)