14/06/2016 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 14/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/06/2016

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
 
Dydd Mawrth 21 Mehefin 2016 
Busnes y Llywodraeth
  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Arolwg Iechyd Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Y wybodaeth ddiweddaraf am “Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020” (30 munud)
Dydd Mercher 22 Mehefin 2016
Busnes y Llywodraeth
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)
Busnes y Cynulliad
  • Cynnig i gynnig teitlau a chylch gwaith pwyllgorau (5 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl Fer - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)
 
Dydd Mawrth 28 Mehefin 2016 
Busnes y Llywodraeth
  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio'r Ymgynghoriad ar Weithredu Cyfnod 1 y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyrff Llywodraethu Ysgolion (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: y Lluoedd Arfog (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Strategaeth Ffyrdd a Gwaith Stryd (30 munud)
Dydd Mercher 29 Mehefin 2016
Busnes y Llywodraeth
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)
 
Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016 
Busnes y Llywodraeth
  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Datganoli Trethi a'r Fframwaith Cyllidol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Atebion Digartrefedd a Thai (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Bygythiadau o ran Clefydau Anifeiliaid Egsotig (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y Strategaeth Gyflogadwyedd (30 munud)
  • Dadl: Cynllun Cyflawni “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” (60 munud)
Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2016
Busnes y Llywodraeth
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
Busnes y Cynulliad
  • Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)